Cymraeg

Dŵr yn tarddu o’r ynys yn cael ei botelu ar yr ynys

Caiff dŵr Ffynnon Môn ei botelu yn y man y mae’n tarddu, mewn dôl heulog lle mae’n pefrio i fyny, yn groyw o glir ac yn llawn mwynau ar ôl teithio drwy afonydd a nentydd tanddaearol hynafol, drwy garreg galch, ac i fyny i’r wyneb drwy wlâu o raean rhewlifol.

Defnyddiwyd y ffynnon i gael dŵr ffres er miloedd o flynyddoedd – mae ffordd Rufeinig yn rhedeg wrth ymyl y safle, a daethpwyd o hyd i ddarnau o arian Rhufeinig wrth ddraenio’r tir.

Ffurfiodd y ffynnon naturiol ar fferm Parc yr Odyn mewn pant rhewlifol, ar safle llyn hynafol. Gwely’r llyn a ffurfiodd yr haenau gwaddodol o garreg galch sy’n rhoi i’r dŵr ei fwynau sylweddol. Wrth i lefel y môr godi, trodd y safle yn forydol, gan ffurfio colofn o raean a chregyn y môr uwch ei ben, sy’n hidlo’r dŵr yn naturiol.

Rydym yn gwmni teuluol ifanc a deinamig, ac mae ein gwreiddiau yn ddwfn yn nhraddodiadau a hanes ynys hynafol Môn. Mae cefnogi economi lleol yr ynys, a’i phobl, yn agos i’n calonnau; fel busnes annibynnol, y ni sy’n gyrru ein twf gan nad ydym yn dibynnu ar grantiau. Rydym hefyd yn eithriadol o falch o’n dŵr mwynol, Ffynnon Môn, y dŵr potel cyntaf erioed i ddod o’r ynys.

Caiff y rhan fwyaf o ddŵr mwynol sydd ar y farchnad ei echdynnu drwy ddyfrdyllau wedi’u drilio, ond tarddu’n naturiol a wna dŵr Ffynnon Môn, ac mae hynny’n well i’r amgylchedd. Nid yn unig ein bod yn cadw costau cludiant yn isel, ond rydym hefyd yn cefnogi economi lleol yr ynys drwy ddefnyddio gweithwyr ac arferion lleol.

750ml gwydr llonydd neu befriog
Ar gael mewn pecynnau o 12 neu fesul palet

330ml gwydr llonydd neu befriog
Ar gael mewn pecynnau o 24 neu fesul palet

500ml plastig llonydd neu befriog
Ar gael mewn pecynnau o 24 neu fesul palet

Cysylltwch â ni i gael profi dŵr unigryw Ffynnon Môn.
Hapus i sgwrsio’n Gymraeg
Ymholiadau cyffredinol: dafydd@angleseyspring.co.uk
Ymholiadau gwerthu: sales@angleseyspring.co.uk
Ffôn: 01248 450566 / 07825 877 675